Mae ymgeisydd Democrataidd, Ralph Northam, wedi ennill y ras ar gyfer swydd llywodraethwr talaith Virginia, gan guro’r Gweriniaethwr, Ed Gillespie.

Mae’r Blaid Ddemocrataidd hefyd wedi gweld buddugoliaethau yn New Jersey, New York a Maine, gan ysgogi rhai i ddadlau bod Americanwyr yn dechrau gwrthod y weinyddiaeth bresennol.

Yn sgil y canlyniad trydarodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump: “Gweithiodd Ed Gillespie yn galed ond methodd a chynrychioli fi, ar hyn dw i’n arddel.”

Er gwaetha’r neges ar Twitter, mi roedd yr ymgeisydd Gweriniaethol i weld yn arddel nifer o’r un syniadau â’r Arlywydd, a chafodd ei ganmol am fabwysiadu “Trumpiaeth” ychydig ddyddiau yn ôl.

Dyma berfformiad etholiadol gwaethaf y Gweriniaethwyr ers i Donald Trump ddod yn Arlywydd.