Mae Carles Puigdemont, sydd wedi’i symud o’i swydd yn arweinydd ar Gatalwnia, wedi dweud bod y frwydr am annibyniaeth yn parhau.

Daeth ei sylwadau mewn rali yng Ngwlad Belg wrth iddo gondemnio gweithredoedd Sbaen wrth garcharu’r swyddogion oedd yn gyfrifol am drefnu’r refferendwm diweddar.

Fe gafodd e groeso cynnes yn y rali gan oddeutu 200 o feiri o Gatalwnia, oedd wedi ei gyfarch drwy floeddio “Arlywydd” a “rhyddid”.

Fe gododd y meiri eu ffyn – sy’n arwydd o rym yn Sbaen – cyn i’r dorf ganu anthem genedlaethol Catalwnia.

Dywedodd Carles Puigdemont wrth y meiri na fyddai’n troi ei gefn ar “ddemocratiaeth”, gan herio awdurdodau Sbaen a’r gymuned ryngwladol i dderbyn canlyniad etholiadau cenedlaethol sydd i ddod ar Ragfyr 21.

Carchar

Mae Carles Puigdemont a phedwar o’i weinidogion yn wynebu 30 o flynyddoedd dan glo yn Sbaen am wrthryfela, annog gwrthryfel ac embeslo.

Ond mae’r cyhuddiadau’n dibynnu ar barodrwydd Gwlad Belg i’w hestraddodi i Sbaen.

Mae naw o swyddogion eisoes wedi’u carcharu am eu rhan yn y refferendwm annibyniaeth, ac mae un ohonyn nhw wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

“Ai dyma’r Ewrop rydych chi ei heisiau?” gofynnodd Carles Puigdemont yn y rali. “Ai dyma’r Ewrop rydych chi eisiau ei hadeiladu, gyda llywodraeth a gafodd ei hethol yn ddemocrataidd yn y carchar?”

Mae arweinwyr ar draws Ewrop wedi gwrthod beirniadu Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy a’i lywodraeth.

Dydyn nhw ddim ychwaith wedi beirniadu gweithredoedd heddlu Sbaen yn ystod gwrthdaro rhwng protestwyr yng Nghatalwnia a’r awdurdodau.

Fe fydd Carles Puigdemont yn ymddangos gerbron llys yng ngwlad Belg ar Dachwedd 17.

Mae gan bleidiau gwleidyddol Sbaen a Chatalwnia tan nos Fawrth nesaf (Tachwedd 14) i gofrestru ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau ym mis Rhagfyr.