Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi glanio yn Tsieina ar gyfer ei ymweliad swyddogol cyntaf â’r wlad.

Mae disgwyl iddo gyfarfod nifer o weithiau ag Arlywydd y wlad, Xi Jinping yn ystod ei ymweliad deuddydd.

Daw’r ymweliad oriau’n unig ar ôl iddo annerch Cynulliad Cenedlaethol De Corea, lle galwodd ar Tsieina i roi’r gorau i gefnogi Gogledd Corea.

Roedd gosod telerau masnachu ar China ymhlith blaenoriaethau’r Arlywydd pan gafodd ei ethol, ond mae lle i gredu y gallai gyfaddawdu pe baen nhw’n fodlon ei helpu i ddatrys yr anghydfod mawr rhwng Gogledd Corea a De Corea.

Tyndra

Mae’r tyndra rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina ar hyn o bryd yn achosi pryder i farchnadoedd ar draws y byd, sy’n gofidio y gallai arwain at ddiffyg twf.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhuddo Tsieina o gefnu ar addewidion yn y farchnad, ac mae Donald Trump wedi dweud bod y diffyg yn y masnachu rhwng y ddwy wlad – sy’n werth hyd at 347 biliwn o ddoleri bob blwyddyn – yn destun “embaras”.

Mae e wedi mynegi pryder bod Tsieina yn gosod trethi ar fewnforio ffoil alwminiwm, dur gloyw a phren haenog, ac yn rhoi pwysau ar gwmnïau tramor i drosglwyddo’u technoleg iddyn nhw.