Mae Donald Trump wedi cyrraedd De Corea heddiw, ac mae’n dweud mai ymdrech i ffrwyno rhaglen niwclear Gogledd Corea sydd ar frig ei agenda.

Mi fydd yn cwrdd ag arweinwyr De Corea gyda’r gobaith o drafod a llacio’r tensiynau o ganlyniad i fygythiadau niwclear Gogledd Corea.

Mae Arlywydd De Corea, Moon Jae-in, yn dweud y bydd ymweliad Donald Trump yn gyfle i ddatrys y “pryder” sydd yn y wlad am Ogledd Corea.

Mae disgwyl i’r ddau drafod cytundebau masnach newydd hefyd.

Dyma’r ail wlad i Donald Trump ymweld â hi ar ei daith yn Asia lle mae wedi bod i Japan, ac yn ymweld â China, Fietnam ac Ynysoedd y Philipinau nesaf.