Mae cyn-arweinydd Catalwnia Carles Puigdemont a phedwar o’i gyn-weinidogion wedi cael eu rhyddhau dan amodau arbennig ar ôl iddyn nhw fynd at yr awdurdodau ym Mrwsel.

Mae’n bosib y gallen nhw gael eu hestraddodi i Sbaen yn dilyn honiadau eu bod wedi trefnu gwrthryfel ar ôl cynnal refferendwm ar annibyniaeth yng Nghatalwnia.

Ond mae barnwr ym Mrwsel wedi dyfarnu nad oes rheswm i gadw’r pum gwleidydd dan glo ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar yr amod eu bod yn aros yng Ngwlad Belg ac yn ymddangos yn y llys o fewn pythefnos.

Oriau’n unig ar ol i’r cyn-arweinydd a’r pedwar cyn-weinidog fynd at yr awdurdodau yng Ngwlad Belg, roedd plaid Carles Puigdemont wedi rhoi ei enw ymlaen fel ei harweinydd mewn etholiadau rhanbarthol, sydd wedi cael eu trefnu gan lywodraeth Sbaen.

Fe allai hyn olygu ei fod yn arwain ymgyrch o Frwsel tra’n ceisio brwydro yn erbyn cael ei estraddodi i Sbaen.

Cafodd y pum gwleidydd eu cadw yn y ddalfa ar ol i warant gael ei gyhoeddi i’w harestio ar ol iddyn nhw fethu mynd i Fadrid i gael eu holi wythnos ddiwethaf.