Mae cyn bennaeth y gwrthryfelwyr yn Colombia, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn yr etholiad i ddewis arlywydd nesa’r wlad.

Fe ddaeth cadarnhad neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 1) gan fudiad guerrilla y bydd Rodrigo Londono ymysg y rheiny fydd yn y ras am bleidlais y bobol.

Mae Rodrigo Londono yn fwy adnabyddus dan ei ffugenw, Timochenko.

Fe ddaeth cadarnhad hefyd y bydd aelodau eraill o’r mudiad gwleidyddol, Farc, yn sefyll am seddi arall yn y Gynghres – mae hynny’n bosib fel rhan fargen heddwch y cytunwyd arni y llynedd.

Mae’r polau piniwn ar hyn o bryd yn dangos fod canran dda o bobol Colombia yn amheus o gymhellion Rodrigo Londono oherwydd ei orffennol gwrthryfelgar.

Mae yna alwadau wedi bod i bawb ar bob ochr i’r broses heddwch orfod cyfaddef eu troseddau rhyfel ac unrhyw gamymddwyn arall gerbron tribiwnlys heddwch arbennig, cyn gallu dod yn rhan o’r byd gwleidyddol.