Mae wyth o bobol wedi eu lladd ac 11 wedi eu hanafu wedi i ddyn yrru cerbyd at gerddwyr a seiclwyr yn Efrog Newydd.

Ar ôl gyrru ar hyd West Street, Manhattan ar brynhawn ddydd Mawrth (Hydref 31) neidiodd y gyrrwr o’r tryc â dau wn ffug, a chafodd ei saethu gan yr heddlu.

O’r unigolion cafodd eu lladd mae’n debyg yr oedd pump ohonyn nhw yn dod o’r Ariannin, tra’r oedd un person o wlad Belg.

Mae Donald Trump wedi ymateb ar Twitter gan ddweud ei fod wedi gorchymyn bod archwiliadau cefndirol o fewnfudwyr sydd yn barod yn “eithafol”, yn mynd i fod yn fwy llym.

Y gyrrwr

Mae’r awdurdodau wedi datgelu mai dyn 29 blwydd oed o’r enw Sayfullo Saipov yw’r gyrrwr. Bellach mae’r dyn o Wsbecistan yn yr ysbyty, ond nid yw ei anafiadau yn bygwth ei fywyd.

Roedd Sayfullo Saipov wedi bod yn gweithio Uber am gyfnod wedi i’r cwmni benderfynu ei fod yn saff i’w gyflogi.

Gwaeddodd “Allahu akbar” yn ystod y digwyddiad, yn ôl rhai adroddiadau.