Mae cwch yn cario hyd at 45 o Fwslimiaid Rohingya wedi troi drosodd ym Mae Bengal, ac mae’r awdurdodau’n dweud i bedwar o gyrff gael eu canfod. Dyw hi ddim yn glir faint o bobol sy’n dal i fod ar goll.

Mae 23 o bobol wedi’u codi o’r tonnau, ac mae dwsin o’r rheiny wedi derbyn triniaeth feddygol.

Y gred ydi i’r bad droi drosodd ger traeth Inani, ar y ffin â Myanmar (Burma) fore Mawrth.

Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi cael gwybod fod 42 o bobol o chwech o deuluoedd adael ar gwch pysgota o dalaith ogleddol Rakhine ben bore Mawrth.

Fe aeth y cwch i drafferthion mewn dyfroedd garw, ac fe drodd drosodd.