Mae gwleidyddion a lluoedd sy’n gwarchod dwyrain Libya, yn cyhuddo llu awyr yr Aifft o ladd pobol ddiniwed mewn cyrchoedd awyr.

Fe ddaeth adroddiadau ddiwedd dydd Mawrth am awyrennau jet yn bomio adeilad yn ardal al-Fatayah yn nwyrain Darna, gan ladd beth bynnag ddwsin o bobol – a’r rhan fwyaf o’r rheiny’n fenywod ac yn blant.

Fe gafwyd ail ffrwydriad, lle cafodd bugail a’i deulu eu lladd tra’r oedden nhw’n eistedd ger y tân ar noson oer.

“Mae teuluoedd cyfan wedi’u lladd,” meddai’r awdurdodau yn Libya, ond mae byddin yr Aifft wedi gwrthod ymateb i’r honiadau.