Mae prif arweinydd Iran wedi cyfyngu ar y pellter y medr taflegrau balistig sy’n cael eu cynhyrchu yn y wlad, i 1,240 o filltiroedd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ddydd Mawrth (Hydref 31) gyda’r pwyslais na fyddai’r un o’r bomiau’n cyrraedd y tu allan i ardal y Dwyrain Canol.

Mae’r cyhoeddiad, meddid, yn pwysleisio hefyd bod yr Ayatollah Ali Khamenei yn cydymffurfio â rheolau y mae gwledydd eraill y byd wedi’u gosod ar y cynllun datblygu arfau niwclear yn y wlad.

O fewn 1,240 o filltiroedd y mae’r rhan fwyaf o’r Dwyrain Canol, yn cynnwys Israel a nifer o wersylloedd milwrol sydd gan yr Unol Daleithiau yn yr ardal.

Yn ol yr Ayatollah Ali Khamenei, mae 1,240 o filltiroedd “yn ddigon am nawr”.