Mae saith o ddynion wedi’u harestio am orfodi dynes ifanc i gerdded trwy bentref yn noeth oherwydd ffrae ynglyn ag anrhydedd y teulu.
Mae heddlu ym Mhacistan yn dweud fod brawd y ddynes wedi’i gyhuddo o gael affêr gyda merch ifanc o deulu arall.
Fe orfodwyd y ferch i dynnu amdani, cyn cael ei pharêdio trwy’r pentref yng ngogledd-orllewin Pacistan.
Yn ol yr heddlu, mae’r dyn ei hun – ynghyd â’i gariad ifanc – yn dal ar goll.
Mae ‘anrhydedd’ y teulu yn fater sensitif ym Mhacistan. Mae bron iawn i 1,000 o ferched bob blwyddyn yn cael eu lladd gan berthnasau, a hynny am ‘ddwyn anfri’ ar eu teuluoedd mewn materion yn ymwneud â pherthnasau a phriodasau.