Mae Andrej Babis yn y broses o ffurfio llywodraeth newydd yn y Weriniaeth Tsiec, wedi i’w fudiad gwleidyddol tir canol ennill etholiadau seneddol y wlad.

Fe enillodd mudiad ‘Ano’ Andrej Babis 78 o seddi yn y senedd 200-sedd ddechrau Hydref.

Roedd wyth o bleidiau eraill hefyd ymhlith y rhai a enillodd seddi, yn cynnwys y mudiad gwrth-ffoaduriaid a gwrth-Undeb Ewropeaidd ‘Rhyddid’, a ‘Democratiaeth Uniongyrchol’ a ddaeth yn bedwerydd yn y polau.

Does yr un o’r pleidiau hyn wedi cytuno i ffurfio llywdoraeth glymblaid gydag Ano, oherwydd eu bod nhw’n ystyried Andrej Babis yn arweinydd “anaddas”. Mae wedi wynebu cyhuddiadau o lygredd gwleidyddol yn ymwneud â derbyn sybsidi ariannol o Ewrop.

Mae Andrej Babis yn dweud y bydd yn ceisio creu llywodraeth leiafrifol gyda chefnogaeth arbenigwyr annibynnol.

Fe fydd yn rhaid i unrhyw lywodraeth newydd ennill pleidlais o hyder cyn cael caniatad i reoli.