Mae’r heddlu yn Japan wedi arestio dyn ar ôl dod o hyd i rannau o gyrff yn ei fflat.

Mae’r awdurdodau’n amau bod y dyn, 27, sy’n byw yn Tokyo, wedi torri’r cyrff yn ddarnau a’u cadw mewn casys oer.

Daeth swyddogion o hyd i’r cyrff wrth chwilio am ddynes, 23, sydd wedi diflannu.

Mae’r cyfryngau lleol yn honni bod corff wyth dynes ac un dyn yn y fflat – y gred yw bod y ddynes sydd ar goll ymysg y meirw.

Roedd cymdogion y dyn yn honni bod arogl amhleserus yn yr ardal ger y fflat, yn ôl rhai adroddiadau.