Mae awgrym y gallai arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont gael cynnig lloches yng Ngwlad Belg.

Dywedodd Gweinidog Mewnfudo’r wlad, Theo Francken mewn cyfweliad teledu na fyddai’n cael prawf teg pe bai awdurdodau Sbaen yn ei orfodi i fynd o flaen ei well yn sgil y refferendwm annibyniaeth.

“Mae sôn am ei garcharu,” meddai Theo Francken wrth sianel VTM. “Byddai’n rhaid gweld i ba raddau fyddai’r achos llys yn un teg.”

Ychwanegodd y byddai Gwlad Belg yn ystyried y posibilrwydd o wrthod ei estraddodi pe bai’n cael lloches cyn i Sbaen gymryd unrhyw gamau yn ei erbyn.

“Os yw’r drefn loches yn effeithiol,” meddai, “caiff amddiffyniad effeithiol ei gyflawni oherwydd mae e’n ffoadur gwleidyddol, a fyddai awdurdodi estraddodi i Sbaen ddim yn hawdd.”

‘Diplomyddol anodd’

Serch hynny, mae Theo Francken yn cydnabod y gallai camau o’r fath achosi tensiwn rhwng Gwlad Belg a Sbaen.

“Wrth gwrs, byddai hyn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa ddiplomyddol anodd gyda llywodraeth Sbaen, ond mae’n bosibl, yn ôl y gyfraith i wneud cais am loches yng Ngwlad Belg, cais a fydd, fel pob cais arall am loches, yn cael sylw mewn ffordd wrthrychol, gywir ac annibynnol fel y byddai’r Sbaenwyr yn ei ddymuno.”