Mae protestiadau wedi troi’n dreisgar yn Cenia wrth i etholiad arlywyddol gael ei gynnal yn y wlad.

Mae nifer o orsafoedd pleidleisio heb agor o gwbwl, ac mae plismyn wrthi’n ceisio rheoli’r anrhefn mewn rhai ardaloedd.

Dyma’r ail etholiad arlywyddol yng Nghenia oddi ar fis Awst, ac mae arweinydd gwrthblaid y wlad, Raila Odinga, wedi erfyn ar y boblogaeth i beidio â bwrw pleidlais y tro hwn.

Cafodd canlyniad yr etholiad diwethaf ei wrthod gan Oruchaf Lys Cenia wedi iddo ddod i’r casgliad fod y bleidlais yn un anghyfreithlon.

Pryder nifer yw bod sustem etholiadol Cenia yn parhau i fod yn ddiffygiol, a gallai’r bleidlais ddiweddaraf gryfhau rôl yr Arlywydd presennol, Uhuru Kenyatta, ymhellach.