Mae barnwr ym Mhacistan wedi cyhoeddi gwarant i arestio’r cyn-brif weinidog Nawaz Sharif, wedi iddo fethu ag ymddangos yn y llys i ateb cyhuddiadau o lygredd.

Mae’r Barnwr Mohammad Bashir wedi gwrthod cais gan dwrnai Nawaz Sharif i aros yn Llundain, lle mae ei wraig ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth feddygol.

Mae’r gwrandawiad nesaf wedi’i drefnu ar gyfer Tachwedd 3. Dan gyfraith Pacistan, mae’n bosib arestio’r gwleidydd y munud y bydd yn dychwelyd i’r wlad – oni bai ei fod wedi cael mechnïaeth cyn y gwrandawiad hwnnw.

Mae’r cyn-brif weinidog 67 oed wedi osgoi ymddangos gerbron llys nifer o weithiau, ac mae wedi cerdded yn rhydd o dri achos o lygredd yn ei erbyn.

Fe ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf eleni, wedi i Oruchaf Lys Pacistan ei ddiarddel o ddal swydd gyhoeddus oherwydd y cyhuddiadau.