Lle mae Gaddafi?
Mae teulu agos Muammar Gaddafi wedi llwyddo i ffoi o Libya wrth i’r gwrthryfelwyr barhau i chwilio am yr unben.

Cyrhaeddodd ei wraig Safiya, ei ferch Aisha, a’i feibion Hannibal a Mohammed, Algeria fore dydd Llun, yn ôl asiantaeth newyddion APS.

Mae’n bosib y bydd llywodraeth newydd Libya, y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol, yn galw ar Alegria i anfon aelodau o deulu Gaddafi yn ôl i Libya.

Serch hynny dyw gweinyddiaeth Algeria ddim eto wedi cydnabod gweinyddiaeth newydd Libya ac wedi llwyddo i atal protestiadau yn ei gwlad ei hun.

Does dim syniad gan y gwrthryfelwyr lle mae Gaddafi, ond maen nhw’n credu fod dau o’i feibion yn Tripoli.

Mae adroddiadau fod un, Khamis, wedi ei ladd gan gyrch awyr.

Wrth i’r gwrthryfelwyr geisio sefydlu llywodraeth newydd yn Tripoli, mae’r brwydro yn parhau mewn rhai trefi a dinasoedd eraill.

Mae yna frwydro ffyrnig o hyd o amgylch dinas arfordirol Sirte, sef tref enedigol Gaddafi.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor y Deyrnas Unedig eu bod nhw wedi dechrau ar y gwaith o agor llysgenhadaeth Brydeinig yn y wlad.