Parhau mae'r chwilio am Muammar Gaddafi
Mae llywodraeth dros dro Libya wedi rhyddhau dros 10,000 o bobl o garchardai Muammar Gaddafi ers i’r gwrthryfelwyr feddiannu Tripoli yr wythnos ddiwethaf.

Eto i gyd, mae wedi dod i’r amlwg fod 50,000 o bobl yn dal ar goll yn y wlad.

Roedd cyfundrefn Gaddafi wedi ceisio rhwystro’r gwrthryfel a gychwynnodd ganol mis Chwefror trwy garcharu miloedd o bobl. Mae llawer wedi cael eu rhyddhau, ond mae wedi dod i’r amlwg fod lluoedd y cyn-unben wedi dienyddio niferoedd mawr o garcharorion wrth i’r gwrthryfelwyr gipio’r brifddinas.

Dywedodd Ahmed Bani, llefarydd ar ran byddin y gyfundrefn newydd, fod y gwrthryfelwyr yn dal i chwilio am Gaddafi, a bod llawer o’i gefnogwyr wedi ffoi i Sirte, pencadlys ei lwyth a’i gadarnle olaf.

“Gobeithio fod Gaddafi yn dal yn Libya, fel y gallwn waredu’r byd o’r pryfetyn yma,” meddai.

Apelio am help Nato

Mae’r gyfundrefn newydd yn galw’n daer ar i Nato ddal ati i bwyso ar weddillion cefnogwyr Gaddafi ac i amddiffyn criwiau sy’n ceisio adfer gwasanaethau dŵr a thrydan.

Amcangyfrifir bod 60% o drigolion Tripoli heb ddigon o ddŵr.

“Mae Gaddafi’n dal i fod â’r gallu i wneud rhywbeth ofnadwy yn y munudau olaf,” meddai pennaeth y llywodraeth dros dro, Mustafa Abdul-Jalil, wrth gyfarfod o swyddogion Nato yn Qatar.

“Hyd yn oed ar ôl i’r ymladd ddod i ben, fe fyddwn ni’n dal angen cymorth milwrol gan Nato,” meddai.