Mae’r Cenhedloedd Unedig yn pwyso am fwy o fesurau diogelwch i rwystro’r firws marwol, y ffliw adar, rhag lledaenu.

Dywed Asiantaeth Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig fod straen newydd o’r ffliw adar H5N1, sy’n ymddangos fel petai’n gallu gwrthsefyll brechlynnau, ar gynnydd yn China a Vietnam.

Yr wythnos ddiwethaf, fe fu farw merch chwech oed o Cambodia o ffliw adar, yr wythfed i farw o H5N1 yn y wlad.

Dywed yr Asiantaeth Bwyd ac Amaethyddiaeth fod ymfudiad adar dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dod â’r H5N1 i wledydd a oedd yn rhydd o’r firws ers blynyddoedd, gan gynnwys Israel, tiriogaethau Palesteina, Bwlgaria, Romania, Nepal a Mongolia.

Mae ffliw adar wedi achosi 331 o farwolaethau dynol trwy’r byd ers 2003.