Llifogydd ar strydoedd Efrog Newydd ddoe (AP)
Mae’r storm drofannol Irene bellach wedi gostegu ac wedi symud tua’r gogledd i Canada.

Y prif bryder erbyn hyn yw llifogydd wrth i afonydd godi i lefelau peryglus.

Mae o leiaf 21 o bobl wedi cael eu lladd o achos y storm dros y ddeuddydd ddiwethaf, ac mae wedi creu dinistr ar hyd arfordir dwyreiniol America.

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi rhybuddio’r Americanwyr nad yw’r peryglon drosodd.

Llwyddodd dinas Efrog Newydd i osgoi’r gwaethaf – er bod dŵr môr wedi gorlifo i rai o strydoedd Manhattan ni achosodd lawer o ddifrod.

Mae disgwyl y bydd trenau tanddaearol y ddinas yn ailgychwyn heddiw, ac mae sefydliadau ariannol Wall Street yn barod i agor.