Atiyah al-Rahman (Llun - Llywodraeth yr Unol Daleithiau)
Mae’r Unol Daleithiau’n hawlio eu bod wedi lladd dirprwy bennaeth y garfan derfysgol, al Qaida.

Yn ôl adroddiadau o Bacistan, fe gafodd Atiyah al-Rahman ei ladd yn nhalaith ogleddol Waziristan ddechrau’r wythnos ddiwetha’.

Y gred yw ei fod wedi cael ei ladd mewn ymosodiad gan awyren ddi-beilot yn yr aral fynyddig, sy’n un o gadarnleoedd al Qaida.

Er mai dyn o’r enw Ayman al-Zawahiri sydd wedi cymryd lle Osama bin Laden ar frig y mudiad, roedd al-Rahman, sy’n wreiddiol o Libya, hefyd yn cael ei ystyried yn ffigwr allweddol.