Corwynt Irene (o wefan Earth Observatory NASA)
Mae arfordir dwyreiniol America’n paratoi at y gwaethaf heno wrth i Gorwynt Irene gyrraedd Gogledd Carolina, ac ymledu i daleithiau Virginia, Maryland a Delaware.

Mae un dyn eisoes wedi cael ei ladd ar ôl cael ei daro gan ddarn o goeden a gafodd ei chwythu gan y corwynt 85 milltir yr awr.

Mae’r corwynt yn ymlwybro i fyny’r arfordir erbyn hyn ac mae disgwyl iddo gyrraedd taleithiau New England yng ngogledd-ddwyrain y wlad yfory.

Mae dros ddwy filiwn o bobl wedi cael eu gorchymyn i adael eu cartrefi ac mae system drafnidiaeth dinas Efrog Newydd yn cau – y tro cyntaf erioed i hyn ddigwydd oherwydd y tywydd.

Yn ôl Jay Baker, athro daearyddiaeth ym Mhrifysgol Talaith Florida, mae’n debygol mai dyma’r nifer mwyaf erioed o bobl i gael eu bygwth gan gorwynt unigol yn yr Unol Daleithiau.

Argyfwng

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn nhaleithiau Gogledd Carolina, Virginia, New Jersey, Efrog Newydd, Connecticut a Massachusetts.

“Peidiwch ag agos. Peidiwch â gohirio,” meddai’r Arlywydd wrth rybuddio pobl i adael eu cartrefi. “Os ydych chi yn llwybr tebygol y corwynt yma, rhaid ichi weithredu ar unwaith.”