Aelodau o luoedd y gwrthryfelwyr wrthi'n chwilio am y Cyrnol Gaddafi ddoe (AP Photo)
Dywed gwrthryfelwyr Libya fod y brifddinas Tripoli bellach yn rhydd o luoedd Gaddafi ar ôl ennill rheolaeth o faestref gerllaw’r maes awyr mewn brwydr dros nos.

Mae trigolion Qasr bin Ghashir wedi bod yn dathlu trwy danio drylliau ac arfau gwrth-awyrennau i’r awyr a chicio darluniau o’r Cyrnol Muammar Gaddafi.

Mae’r dathliadau yn yr ardal dlawd yma 12 milltir o ganol y ddinas yn arwydd o optimistiaeth y gwrthryfelwyr ar ôl i ddyddiau o ymladd ffyrnig anfon Gaddafi i guddfan.

Mae trigolion Tripoli hefyd wedi bod yn dathlu ac mae’n ymddangos bod y brifddinas bellach o dan reolaeth y gwrthryfelwyr i raddau helaeth.

Dywedodd Omar al-Ghuzayl, un o arweinwyr byddin y gwrthryfelwyr, fod ei luoedd wedi llwyddo i wthio ymladdwyr Gaddafi allan o Tripoli.

Mae hi’n amlwg bellach fod Nato a’r gwrthryfelwyr yn canolbwyntio’u hymdrechion ar Sirte, tref enedigol Gaddafi a’i gadarnle olaf, wrth barhau i chwilio am y cyn-unben.