Mae trefniadau diogelwch wedi eu tynhau yn Abuja, prifddinas Nigeria, ar ôl i o leiaf 18 o bobl gael eu lladd gan fom ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn y wlad ddoe.

Hwn oedd yr ymosodiad gwaethaf ar y Cenhedloedd Unedig ers 10 mlynedd.

Mae milwyr yn stopio cerbydau ar y briffordd sy’n arwain i mewn i’r ddinas o’r maes awyr, ac mae milwyr, plismyn ac aelodau o heddlu cudd y wlad wedi cau’r ardal o gwmpas adeilad y Cenhedloedd Unedig.

Mae sect Mwslimaidd radicalaidd sy’n cadl ei adnabod yn lleol fel Boko Haram wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Mae ar y grŵp, sydd â chysylltiadau ag al-Qaida, eisiau gweithredu cyfundrefn lem o gyfraith Sharia yn y wlad ac mae’n chwyrn ei wrthwynebiad i addysg a diwylliant gorllewinol.