Mae brwydro ffyrnig rhwng gwrthryfelwyr a lluoedd diogelwch ar y ffin rhwng Pacistan ac Afghanistan heddiw.

Mae cannoedd o wrthryfelwyr wedi croesi’r ffin o Afghanistan ac ymosod ar ganolfannau milwrol yng ngogledd-orllewin Pacistan, gan ladd 12 aelod o luoedd diogelwch y wlad.

Dywed swyddog o heddlu Pacistan fod lluoedd y wlad wedi taro’n ôl, gan ladd naw o’r gwrthryfelwyr.

Roedd yr aelodau o luoedd Pacistan a gafodd eu lladd yn cynnwys 10 o barafilwyr a dau heddwas.

Yn ôl y swyddog heddlu, fe wnaeth y gwrthryfelwyr gipio pentref Godibar ar ôl dinistrio sefydliadau milwrol.