Obama'n dod adre' o'i wyliau'n gynnar
Fe gafodd 2 filiwn o bobol rybudd i chwilio am loches wrth i gorwynt Irene fygwth arfordir dwyreinol yr Unol Daleithiau.

Mae miloedd o deithiau awyr wedi eu canslo a milwyr y Gwarchodlu Cenedlaethol wedi symud i’r ardal.

Yn Efrog Newydd, sydd heb gael rhybudd corwynt ers 20 mlynedd, fe gafodd y system drenau danddaearol ei chau ac mae’r Arlywydd Obama ar ei ffordd yn ôl i Washington o’i wyliau ym Martha’s Vineyard.

Fe apeliodd ar i bobol symud o’u cartrefi i lefydd mwy diogel wrth i’r corwynt nesáu at ardaloedd sydd heb arfer delio â chorwyntoedd.

Er bod arbenigwyr yn dweud y gallai’r corwynt arafu rhywfaint wrth gyrraedd tir, mae disgwyl y bydd y storm yn parhau ar gryfder o hyd at 100 milltir yr awr.