Mae llifogydd dirybudd wedi lladd o leiaf 33 o bobl mewn pentref yng Ngogledd Orllewin Pacistan ac mae dwsinau o bobl yn dal i fod ar goll.

Dywed swyddogion rheoli trychinebau’r ardal fod y llifogydd wedi’u hachosi gan lawogydd trwm y tymor monsŵn.

Fe drawodd y llifogydd y dyffryn anghysbell Kundian yn nhalaith Khyber Pakhtunkhwa ar ddydd Mercher, gan ddinistrio cartrefi a seilwaith hollbwysig, meddai pennaeth rheolaeth trychinebau’r ardal, Syed Ashgar Ali Shah.

Mae ymgyrchoedd achub wedi cael eu cyfyngu gan anawsterau mynediad. Mae nifer fawr o’r ffyrdd a phontydd gafodd eu difrodi yn llifogydd y llynedd – y gwaethaf yn hanes Pacistan – yn dal heb eu trwsio.

Cafodd dau hofrennydd achub eu hanfon i’r dyffryn ddoe, yn ôl Shah, ac mae disgwyl i un arall gael ei anfon heddiw.

O’r 38 sy’n dal i fod ar goll wedi’r trychineb, mae wyth ohonyn nhw’n blant.

Rhagor o law

Disgwylir i’r glaw trwm barhau yn yr ardal am o leiaf 24 awr arall, yn ôl adran meteoroleg y wlad.

Mae glawogydd monsŵn yn arfer dechrau tua mis Gorffennaf bob blwyddyn, ac maen nhw’n aml yn arwain at lifogydd trwm.

Fe effeithiodd llifogydd y llynedd ar tua pumed ran o arwynebedd Pacistan ac o leiaf 20 miliwn o bobl. 

Mae arbenigwyr yn honni fod dinasyddion yr ardaloedd hyn gafodd eu heffeithio waethaf llynedd yn fwy agored i gael eu heffeithio’n wael eto gan nad ydyn nhw wedi adfer yn iawn ers y llifogydd diwethaf.