Y Cyrnol Muammar Gaddafi - dal yn herfeiddiol
Mae’r Cyrnol Muammar Gaddafi yn dal ar ffo ac yn dal i annog ei gefnogwyr wrth i ymladd barhau ar strydoedd prifddinas Libya, Tripoli.

Mewn neges ar dâp, mae wedi apelio ar ei gefnogwyr i ddal ati. “Peidiwch â gadael Tripoli i’r llygod mawr,” meddai. “Ymladdwch nhw a lladdwch nhw.”

Er gwaethaf ymdrechion swyddogion cudd Nato, methiant fu pob ymgais i gael hyd iddo hyn yma.

Mae brwydro gwaedlyd wedi bod yn ardal Salim yn Tripoli, gerllaw hen bencadlys milwrol Gaddafi a gafodd ei oresgyn yn gynharach yn yr wythnos.

Er gwaetha’r ymladd a’r methiant i ddal Gaddafi, mae cabinet y Cyngor Trawsnewid Cenedlaethol – a gafodd ei ffurfio i baratoi ar gyfer llywodraethu’r wlad ar ôl trechu’r unben – wrthi’n symud ei bencadlys o’i gadarnle yn Benghazi i’r brifddinas Tripoli.