Mae priodi, ac ysgaru, yn gwneud pobol yn dew, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae merched yn tueddu i roi pwysau ymlaen ar ôl priodi, tra bod dynion yn cael eu heffeithio yn yr un ffordd gan ysgariad.

Yn ôl yr ymchwilwyr mae priodi yn gwneud lles i iechyd dynion, ond mae’n golygu fod gan ferched lai o amser i ymarfer corff am eu bod nhw “yn gwneud mwy yn y cartref”.

“Mae ysgaru i ddynion, a phriodi i ferched, yn gallu arwain at fagu pwysau sy’n peryglu iechyd y person,” meddai Dmitry Tumin o Brifysgol Ohio yn yr Unol Daleithiau.

Roedd pobol yn fwy tebygol o roi pwysau ymlaen ar ôl priodi neu ysgaru pan maen nhw’n hŷn na 30 oed.

“Does yna ddim llawer iawn o wahaniaeth rhwng rhywun sydd yn ei 20au sy’n briod a rhywun sydd ddim,” meddai Dmitry Tumin.

“Ond y tu hwnt i hynny mae yna lawer iawn mwy o wahaniaeth.”

Roedd yr ymchwilwyr wedi defnyddio gwybodaeth am 10,000 o bobol er mwyn gweld a oedden nhw’n twchu ar ôl priodi ac ysgaru.