Mae wyth o bobol wedi eu hanafu ar ôl cael eu taro gan fellten ym mharc antur SeaWorld’s Discovery Cove yn Florida.

Dywedodd llefarydd ar ran SeaWorld, Nick Gollattscheck, fod tri ymwelydd a pum gweithiwr wedi eu hanafu.

Ni chafodd yr un ohonyn nhw eu taro yn uniongyrchol gan y fellten, meddai.

Doedd yr un o’r anafiadau yn berygl bywyd.

Aethpwyd a’r ymwelwyr a dau o’r gweithwyr o’r parc antur yn Orlando i’r ysbyty lleol.

Roedden nhw i gyd yn ymwybodol, meddai.