Berlin
Tyfodd economi’r Almaen 0.1% yn unig yn ail chwarter y flwyddyn, gan ychwanegu at y pryderon ynglŷn â dyledion parth yr ewro.

Roedd economi mwyaf Ewrop wedi bod yn tyfu’n gyson ers diwedd y dirwasgiad er gwaetha’r argyfwng ariannol sydd wedi effeithio ar y 16 gwlad arall sy’n defnyddio’r ewro.

Dywedodd asiantaeth ystadegol y wlad fod cwsmeriaid wedi gwario llai a chwmnïau wedi buddsoddi llai mewn gwaith adeiladu yn yr ail chwarter.

Mae’r twf isel yn cymharu â thwf 1.3% yn y chwarter cyntaf diolch i gynnydd mewn allforion ceir a pheiriannau diwydiannol.

Mae arbenigwyr economaidd eisoes wedi rhybuddio y gallai twf arafu eto yn ail hanner y flwyddyn o ganlyniad i bryderon ynglŷn â dyledion ariannol gwledydd parth yr ewro.

Daw cyhoeddiad yr Almaen wedi ffigyrau siomedig gan rai o economïau eraill y byd. Tyfodd economi’r Unol Daleithiau 1.3%, a Prydain 0.2%.

Arhosodd economi Ffrainc yn yr unfan yn yr ail chwarter ac fe grebachodd economi Japan -0.3%.

Bydd arweinwyr yr Almaen a Ffrainc yn cwrdd heddiw er mwyn trafod sut i ddatrys yr argyfwng ariannol.

Mae yna bryderon y gallai’r twf isel fod yn ddechrau ar ail ddirwasgiad.