Mae’r rhaid i lywodraethau Ewrop ailstrwythuro eu heconomïau os ydyn nhw am adfer ffydd y marchnadoedd ariannol.
Dyna ddywedodd pennaeth Banc y Byd heddiw wrth rybuddio fod yr economi byd-eang yn wynebu argyfwng ariannol arall o’r un maint a 2008.
Dywedodd Robert Zoellick fod yna ansicrwydd mawr ynglŷn â dyledion gwledydd parth yr ewro a’r anghydfod gwleidyddol dros leihau diffyg ariannol yn yr Unol Daleithiau.
Roedd hynny wedi “arwain at bryderon mawr am yr economi fyd-eang” sydd wedi achosi cwymp mawr yn y farchnad stoc.
“Dros yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi symud yn ôl at ymyl y dibyn,” meddai Robert Zoellick ar ymweliad ag Awstralia.
“Y peth pwysig nawr fydd gweld a ydi busnesau a chwsmeriaid hefyd yn pryderu a sut y bydd llywodraethau yn ymateb.”
Croesawodd y newyddion fod Banc Canolog Ewrop wedi prynu gwerth €22 biliwn mewn bondiau o’r Eidal a Sbaen ymysg pryderon na fydd y ddwy wlad yn gallu talu eu dyledion.
Ond dywedodd mai ateb tymor byr oedd hynny ac nad oedd yn mynd i’r afael â’r broblem sylfaenol sef gormod o ddyled.
“Dyw gwledydd Ewrop heb allu mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol a strwythurol,” meddai.
“Rydw i’n gobeithio y bydd fy sylwadau yn ysgogi’r gwleidyddion a’r cyhoedd – rhaid gwneud rhagor a hynny’n gynt.”