Mae yfed alcohol cyn mynd i’r cae sgwâr yn ei gwneud hi’n anoddach cael noson dda o gwsg, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ymchwil yn dangos fod alcohol yn effeithio ar y system nerfol ac yn arwain at ragor o nosweithiau digwsg a blinder.

Er mwyn profi’r ddamcaniaeth cafodd 10 myfyriwr gwrywaidd gyfres o ddiodydd meddwol gwahanol i’w hyfed bob nos am gyfnodau o dair wythnos ar y tro.

Roedd rhaid iddyn nhw yfed y diodydd 100 munud cyn mynd i’r gwely.

Roedd cynnwys alcohol y diodydd yn amrywio o ddim i un gram o ethanol pur i bob cilogram o bwysau’r corff.

Wrth i’r myfyrwyr gysgu defnyddiwyd offer electrocardiogram ac electroenceffalogram er mwyn mesur gweithgaredd trydanol yn y galon a’r ymennydd.

Roedd alcohol yn arafu’r system nerfol barasympathetig sy’n rheoli curiad y galon a’r system trwulio. Mae’r system nerfol hon yn helpu’r corff i orffwyso ac adfer egni.

Cafodd canlyniadau’r ymchwil ei gyhoeddi heddiw yn y cylchgrawn Alcoholiaeth: Ymchwil Clinigol ac Arbrofol.

“Mae’r ymchwil yn dangos nad ydi noson dda o gwsg ag alcohol yn cyd-fynd,” meddai un o awduron yr ymchwil, Dr Yohei Sagawa, o Ysgol Feddygol Prifysgol Akita, Japan.