Yr Unol Daleithiau
Mae o leia’ bedwar person wedi marw ar ôl i lwyfan gwympo yn yr Indiana State Fair, yn ystod storm. Roedd y band canu gwlad, Sugarland, ar fin perfformio.

Mae tua 40 o bobol wedi cael eu hanafu yn Indianapolis.

Gwyntoedd cryfion oedd yn gyfrifol am i waith rigio’r llwyfan gwympo, gan syrthio am ben rhai pobol, a dal rhai arall yn gaeth.

“Fe ddaeth gwynt cryf ac ypsetio’r gwaith rigio, ac fe gwympodd hwnnw gan achosi i strwythur y llwyfan syrthio,” meddai David Bursten, llefarydd ar ran Heddlu Talaith Indiana.

“Mae’r anafiadau yn amrywio o rai difrifol iawn, i ddim ond crafiadau a chleisiau.”