BP
Mae prinder peirianyddion yn bygwth llesteirio ymdrechion cwmni BP rhag gynhyrchu mwy o olew ym Môr y Gogledd.

Mae’r cwmni rhyngwladol yn disgwyl recriwtio rhwng 150 and 300 o bobol bob blwyddyn, ond mae llefarydd ar ran BP yn cyfadde’ mai un o’i broblemau mwya’ ydi dod o hyd i’r bobol iawn i wneud y gwaith.

Fe ddaw’r sylwadau, mewn erthygl ym mhapur The Sunday Telegraph, fis wedi i BP gyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £3bn mewn dau faes olew oddi ar Ynysoedd y Shetland.

“Mae dod o hyd i’r bobol iawn yn fater mawr i ni,” meddai Trevor Garlick, pennaeth gweithgareddau’r cwmni ym Môr y Gogledd. “Rydyn ni’n cyflogi llawer o bobol, ond rydyn ni hefyd yn allforio rhai cannoedd o bobol i ardaloedd eraill yn y byd.”