Mae celloedd swyddfeydd heddlu Venezuela yn gorlifo, wythnos ar ôl cyhoeddi gwaharddiad ar anfon rhagor o bobol i garchardai gorlawn y wlad.

Mae penaethiaid heddlu’r wlad wedi dweud fod eu gorsafoedd yn orlawn, o ganlyniad i orchymyn y llywodraeth na ddylen nhw anfon pobol i garchardai am fis.

Gwnaed y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan weinidog carchardai newydd y wlad, Iris Varela.

Ond mae Prif Swyddog Heddlu rhanbarth Caracs’ Sucre, Manuel Furelos, yn dweud eu bod nhw eisoes yn brin o le.

“Mae pob un o heddluoedd y rhanbarth a’r wladwriaeth yn cael problemau,” meddai Manuel Furelos.

Yn ôl Carlos Ocariz, arweinydd gwrthblaid Sucre, mae’r swyddfa heddlu lleol yn 80% llawn.

“Mae’r mesur hwn yn torri hawliau dynol carcharorion. Dylai mesurau callach gael eu defnyddio er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng yn y carchardai,” meddai Carlos Ocariz.

Ond mae Twrnai Gwladol Venezuela wedi amddiffyn penderfyniad Iris Varela, gan ddweud mai amcan y gorchymyn yw gorfodi’r system garchardai i wella.