Mae marchnadoedd stoc ar draws y byd wedi ennill tir dros nos wrth i gronfa arian wrth gefn yr Unol Daleithiau addo y byddwn nhw’n cadw cyfraddau llog yn isel.

Dywedodd ‘y Ffed’ nad oedden nhw’n bwriadu codi cyfraddau llog am o leiaf ddwy flynedd oherwydd pryderon fod economi’r wlad, a’r economi fyd-eang, yn dechrau arafu.

Cododd pris olew i tua $82 y faril yn dilyn y cyhoeddiad, a gorffennodd y Dow Jones i fyny 429 pwynt yn dilyn y cyhoeddiad.

Roedd y Dow Jones wedi syrthio 634.76 pwynt y diwrnod cynt yn dilyn cyhoeddiad Standard and Poor eu bod nhw wedi torri sgôr credit yr Unol Daleithiau o AAA i AA+.

Roedd hwb hefyd i farchnadoedd stoc Hong Kong, China, Japan ac Awstralia dros nos yn dilyn cyhoeddiad y Ffed brynhawn ddoe.

Dywedodd y Ffed eu bod nhw hefyd wedi trafod defnyddio sawl arf arall er mwyn rhoi hwb pellach i’r economi. Mae disgwyl i hynny gynnwys argraffu rhagor o arian.

Er gwaetha’r newyddion da rhybuddiodd arbenigwr economaidd y gallai un darn o newyddion drwg fod yn ddigon o godi braw ar y marchnadoedd stoc unwaith eto.

“Mae yna lawer iawn o ofn ac ansicrwydd yn y farchnad, a bydd unrhyw newyddion drwg yn ychwanegu at hynny,” meddai Samuel LeCornu, rheolwr portffolio Macquarie Funds Group yn Hong Kong.

“Os ydyn ni’n gweld cynnydd mewn diweithdra yn yr Unol Daleithiau, mae hynny yn mynd i ychwanegu at y pryderon.”