Mae’r farchnad stoc wedi ennill tir heddiw ymysg gobeithion y bydd rhagor o arian yn cael ei bwmpio i mewn i economi’r Unol Daleithiau.
Daw hyn wedi chwalfa o raddfa hanesyddol ddoe, ar ôl wythnos o golledion mawr i fusnesau ar draws y byd.
Syrthiodd Dow Jones yr Unol Daleithiau 634.76 pwynt ddoe – un o’r dyddiau gwaethaf yn hanes 112 mlynedd y Dow, a’r cwymp undydd mwyaf ers mis Rhagfyr 2008.
Syrthiodd FTSE 100 Prydain mwy na 100 pwynt am y pedwerydd dydd yn olynol – y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn ei hanes 27 mlynedd.
Ond heddiw gorffennodd y FTSE 100 1.89% i fyny ac mae’r DOW Jones hefyd i fyny tua 2% ar hyn o bryd. Roedd yn dipyn o newid i’r FTSE oedd i lawr 5% y bore ma.
Tyfodd y CAC 40 1% yn Ffrainc.
Ffwdan heb y Ffed
Pe bai’r FTSE 100 wedi syrthio eto heddiw, dyma fyddai ei gyfnod gwaethaf ers mis Ionawr 2003. Mae wedi syrthio tua 10% dros y pythefnos diwethaf.
Daw hyder newydd y masnachwyr ymysg dyfalu y bydd cronfa wrth gefn yr Unol Daleithiau, ‘y Ffed’, yn argraffu rhagor o arian er mwyn rhoi hwb i economi mwya’r byd.
Daw’r chwalfa oherwydd pryderon nad yw economi’r Unol Daleithiau yn tyfu, a phenderfyniad asiantaeth Standard & Poor i ostwng sgôr credit y wlad o AAA.
Mae yna hefyd bryder am allu gwledydd yr ewro i dalu eu dyledion, a sut y bydd marchnadoedd Asia yn goroesi heb eu cwsmeriaid yn y gorllewin.
Dywedodd Clem Chambers, prif weithredwr gwefan ariannol ADVFN, fod y cwbl yn dibynnu ar beth mae’r Gronfa Ffederal yn penderfynu ei wneud.
“Mae’r farchnad yn disgwyl iddyn nhw argraffu rhagor o arian ac os ydyn nhw’n gwneud hynny fe fydd yn saethu i fyny,” meddai,
“Os nad oes yna argraffu arian fe fydd y Dow Jones yn plymio i lawr i 10,000.”
Mae yna bryder y bydd y cwymp yn y farchnad stoc yn gwthio’r economi i mewn i ddirwasgiad arall drwy ddinistrio hyder cwsmeriaid.
Pe bai hynny yn digwydd byddai masnachwyr yn gwerthu rhagor o stoc, gan arwain at gylch dieflig.