Y Tŷ Gwyn
Mae ysgrifennydd y Trysorlys, Timothy Geithner, wedi ymosod yn llym ar “benderfyniad ofnadwy” asiantaeth Standard & Poor i ostwng sgôr credit yr Unol Daleithiau.

Ddydd Gwener penderfynodd yr asiantaeth nad oedd yr Unol Daleithiau yn haeddu ei sgôr credit AAA oherwydd ansicrwydd a fyddai yn talu ei dyledion.

Ond dywedodd Timothy Geithner fod y penderfyniad yn dangos “anwybodaeth syfrdanol” ynglŷn â’r “mathemateg sylfaenol” sy’n sail i gyllideb y llywodraeth.

Mae Gweriniaethwyr wedi beio’r Arlywydd Barack Obama am benderfyniad Standard & Poor i ostwng sgôr credit y wlad.

Ond dywedodd Timothy Geithner mai’r Gyngres sy’n gyfrifol am godi trethi a gwario arian cyhoeddus ac maen nhw ddylai gael y bai.

Agorodd marchnadoedd Asia heddiw yn is o ganlyniad i’r penderfyniad i ostwng sgôr credit yr Unol Daleithiau.

Y pryder yw y bydd economïau’r dwyrain pell yn colli allforion os yw economi’r Unol Daleithiau yn gwanhau.

Ar ben hynny mae pryderon y gallai rhai o wledydd mwyaf parth yr ewro, gan gynnwys Sbaen a’r Eidal, fethu a thalu eu dyledion nhw.