Mae Banc Canolog Ewrop yn gobeithio y bydd gweithredu brys i achub yr Eidal a Sbaen heddiw yn atal chwalfa ar y marchnadoedd stoc.

Diflannodd triliynau o werth yr economi byd-eang yr wythnos diwethaf wrth i fasnachwyr werthu eu cyfranddaliadau oherwydd pryderon ynglŷn â dyledion parth yr ewro a’r Unol Daleithiau.

Mae llywydd Banc Canolog Ewrop, Jean-Claude Trichet, bellach wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu prynu rhywfaint o ddyled Sbaen a’r Eidal er mwyn adfer sefydlogrwydd.

Cytunodd bancwyr o’r 17 gwlad sy’n rhan o’r ewro ar y cynllun neithiwr. Y gobaith yw y bydd yn atal y llog ar fenthyciadau’r gwledydd rhag codi tu hwnt i beth y maen nhw’n gallu fforddio ei dalu yn ôl.

Ond syrthiodd marchnadoedd Asia’r bore ma yn dilyn panderfyniad Standarn & Poor i ostwng sgôr credit yr Unol Daleithiau o AAA i AA+ ddydd Sadwrn.

Integreiddio yn anochel

Galwodd y Canghellor George Osborne ar bob gwlad a sefydliad ym mharth yr ewro i wneud eu gorau glas i sicrhau fod sefydlogrwydd ariannol yno.

Rhybuddiodd fod angen “gweithredu pendant, ar y cyd” os oedden nhw am ddod o hyd i ateb parhaol fyddai yn plesio’r marchnadoedd.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Daly Telegraph dywedodd fod integreiddio cyllidol pellach rhwng gwledydd parth yr ewro yn anochel.

Awgrymodd y dylai fod yn bosib prynu cyfranddaliadau ym mharth yr ewro yn ei gyfanrwydd yn hytrach na mewn gwledydd unigol.

Roedd yn amhosib amddiffyn Prydain yn llwyr rhag y problemau ym mharth yr ewro ond roedd toriadau Llywodraeth San Steffan yn golygu ei fod yn “harbwr diogel mewn storm”.