Wall Street
Mae yna bryder y bydd yna ragor o newyddion drwg ar y marchnadoedd ariannol wedi i’r Unol Daleithiau golli ei sgôr credit AAA.

Dywedodd asiantaeth credyd Standard & Poor eu bod nhw wedi israddio sgôr credit y wlad i AA+.

Daw hynny wedi rali munud olaf nos Wener oedd yn golygu fod indecs y Dow Jones wedi gorffen y diwrnod 0.5% i fyny, ar ddiwedd wythnos a welodd chwalfa ar draws y marchnadoedd ariannol.

Yn Llundain collodd indecs y FTSE 100 9.8%, neu £147.9 biiwn, o’i werth yn ystod yr wythnos – y cwymp mwya’ ers dechrau’r argyfwng ariannol yn 2008.

Y pryder yw y gallai colli sgôr credit AAA’r Unol Daleithiau greu panig yn y marchnadoedd ariannol wrth i fasnachwyr bryderu fod economi mwyaf y byd yn anelu at ddirwasgiad arall.

Dywedodd Standard & Poor eu bod nhw wedi penderfynu israddio sgôr credit yr Unol Daleithiau am nad oedd y cynllun i leihau’r diffyg ariannol gyhoeddwyd ddydd Mawrth wedi gwneud digon i ddatrys y broblem.

Ond dywedid ffynhonnell sy’n gyfarwydd â’r trafodaethau fod gweinyddiaeth Barack Obama yn credu fod dadansoddiad yr asiantaeth yn cynnwys “diffygion mawr a sylfaenol”.

Rhagor i ddod

Rhybuddiodd Standard & Poor fod siawns y byddwn nhw’n gostwng y sgôr credit ymhellach o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd y byddai hynny yn digwydd os oedd yr asiantaeth yn gweld nad oedd y Gyngres yn bwrw ymlaen â’r cynlluniau i dorri’r diffyg ariannol.

Mae disgwyl y bydd y pryder ariannol yn tarfu ar wyliau haf nifer o wleidyddion y penwythnos hwn, wrth iddyn nhw geisio gostegu pryderon cyn i’r marchnadoedd ail-agor ddydd Llun.

Mae Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, eisoes wedi addo torri diffyg ariannol ei wlad erbyn 2013 – blwyddyn o flaen yr amserlen wreiddiol.

Awgrymodd y gallai gweinidogion cyllidol y G7 ymgasglu o fewn dyddiau i drafod y sefyllfa ariannol.