Y Kingdom Tower
Mae Saudi Arabia wedi datgelu cynllun i adeiladu’r twr talaf yn y byd.
Bydd y Kingdom Tower 3,280 troedfedd bron yr un maint a’r Wyddfa, sy’n 3,560 troedfedd o daldra.
Dim ond 2,717 troedfedd yw’r twr mwyaf yn y byd ar hyn o bryd – y Burj Khalifa yn Yr Emiradau Arabaidd Unedig.
Bydd Kingdom Tower yn cynnwys gwesty, fflatiau, a swyddfeydd dros 5.4 miliwn troedfedd sgwâr.
Mae’n rhan o ddatblygiad newydd a elwir Kingdom City, dinas a fydd yn gorchuddio ardal dwy filltir sgwâr, yn Jiddah ar lannau’r Môr Coch.
Mae cwmni y mae’r Tywysog Alwaleed bin Talal yn berchen arno wedi arwyddo cytundeb £735m â Saudi Binladen Group i adeiladu’r twr.