Syrthiodd elw cwmni Honda bron i 90% i ¥31.7 biliwn (£251 miliwn) yn dilyn y daeargryn a’r tsunami yng ngogledd-ddwyrain Japan.

Cyhoeddodd y cwmni heddiw fod eu helw nhw rhwng mis Ebrill a mis Mehefin yn llawer llai na’r ¥272.4 biliwn (£2.2 biliwn) yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Ond dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi cadw i fynd er gwaethaf y daeargryn ar 11 Mawrth, diolch yn bennaf i’w busnes beiciau modur sydd ar gynnydd.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw’n bwriadu gwneud elw o ¥230 biliwn (£1.8 biliwn) yn ystod y flwyddyn ariannol nes mis Mawrth 2012.

Mae hynny’n llai na hanner eu helw ¥534 biliwn (£4.2 biliwn) y llynedd.

Roedd y rhan o Japan a gafodd ei ddifrodi gan y daeargryn a’r tsunami yn gartref i sawl un o gwmnïau gwneud darnau ceir y wlad.

Ond dywedodd Honda bod pethau wedi gwella’n well na’r disgwyl a’u bod nhw’n bwriadu cyrraedd yr un lefelau cynhyrchu yn hwyrach eleni.