Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi traddodi araith gan ymosod ar y Gweriniaethwyr am yr argyfwng ariannol sy’n datblygu yn y wlad.

Mae Barack Obama eisiau codi’r cyfyngiad ar ddyled y wlad cyn 2 Awst, ond mae’r Gweriniaethwr a’r Democratiaid wedi methu a chytuno ar gynllun.

Mae’r Gweriniaethwyr yn anhapus fod cynlluniau Barack Obama i dorri’r diffyg ariannol yn cynnwys codi trethi – maen nhw am weld toriadau gwario yn unig.

Wrth ymddangos ar y teledu neithiwr dywedodd yr Arlywydd fod yr Unol Daleithiau yn beryglus o agos at beidio â gallu talu ei dyledion.

Rhybuddiodd y byddai yn “anghyfrifol” methdalu, ac y byddai yn ei gwneud hi’n fwy costus i’r llywodraeth fenthyg arian yn y dyfodol.

“Yr unig reswm nad oes yna gyllideb deg a chytbwys yn cael ei gwneud yn ddeddf nawr ydi oherwydd bod nifer sylweddol o Weriniaethwyr yn y Gyngres yn mynnu y dylen ni gyflwyno toriadau ariannol yn unig,” meddai Barack Obama.

“Dyw hynny ddim yn gofyn i’r Americanwyr mwyaf cyfoethog na’r cwmnïoedd mwyaf i gyfrannu unrhyw beth o gwbl.”

Ymatebydd llefarydd Gweriniaethol Tŷ’r Cynrychiolydd, John Boehner, o fewn munudau – gan ddweud fod yr Arlywydd wedi galw am “y rhyddid i wario faint bynnag y mae ei eisiau” .

“Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd,” meddai.