Mae ffrwydrad mawr wedi taro pencadlys y llywodraeth yn Oslo, gan ladd o leiaf un person ac anafu sawl un arall.

Mae’r adeiladau yn cynnwys swyddfa Prif Weinidog Norwy, Jens Stoltenberg. Ni chafodd ei anafu yn y ffrwydrad, yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth, Camilla Ryste.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod un person wedi marw ac mae un o irsafoedd radio y wlad yn awgrymu fod yna fwy o gyrff.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau mai bom achosodd y ffrwydrad. Dydyn nhw ddim yn credu fod yna fwy o fomiau yn y brifddinas.

Yn ôl sylwebwyr fe allai Mwslimiaid eithafol fod wedi penderfynu targedu Norwy, sydd wedi bod yn rhan o lu ISAF yn Afghanistan ers iddo gael ei ffurfio yn 2001.

Mae gweithwyr y sector gyhoeddus yn gadael gwaith am 3pm yn Norwy yn yr haf, ac mae nifer fawr yn mynd ar wyliau ym mis Gorffennaf, a all olygu nad oedd y swyddfeydd yn llawn pan ddigwyddodd y ffrwydrad.

Llygad-dyst

Dywedodd y llygad-dyst Ole Tommy Pedersen ei fod yn sefyll mewn gorsaf fysiau tua chanllath o’r adeilad tua 4.30pm amser Prydain pan ddigwyddodd y ffrwydrad.

Cafodd bron i bob ffenestr yn yr adeilad 20 troedfedd eu chwalu. Ychwanegodd ei fod wedi gweld cwmwl o fwg yn codi o’r llawr gwaelod.

“Fe welais i dri neu bedwar o bobol wedi eu hanafu yn cael eu cario o’r adeilad ychydig funudau yn ddiweddarach,” meddai.

Cafodd swyddfeydd cyfagos eu gwagio, gan gynnwys un sy’n gartref i rai o bapurau newydd blaenllaw’r wlad, ac asiantaeth newyddion NTB.

Mae fideo yn dangos y difrod bellach wedi ei uwchlywtho i’r we.