Andrew DeYoung
Mae dyn wedi ei ffilmio yn cael ei ddienyddio mewn talaith yn Unol Daleithiau America.

Cafodd y dienyddion ei ffilmio wrth i gyfreithwyr troseddwr arall sy’n disgwyl y gosb eithaf gasglu tystiolaeth er mwyn profi fod y broses yn un poenus.

Mae cyfreithwyr Gregory Walker, sy’n wynebu’r gosb eithaf, yn dadlau nad yw’r sedatif pentobarbital yn atal carcharorion rhag teimlo poen wrth dderbyn y brechiad marwol.

Yn ôl y cyfreithwyr, roedd recordio marwolaeth Andrew DeYoung, 37 oed, yn holl bwysig er mwyn darparu tystiolaeth yn ei apêl ynglŷn ag effeithiau pentobarbital yn y broses o ddienyddio.

Mae’n dadlau nad yw’r cyffur sedatif newydd hwn yn ddigonol, a bod y carcharor yn gallu teimlo’r boen wrth dderbyn y cyffuriau i’w gorff.

Cafodd DeYoung ei ddedfrydu i farwolaeth ar ôl iddo ladd ei fam, ei dad, a’i chwaer 14 oed Sarah pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Kennesaw.

Mae erlynyddion yn dweud ei fod wedi gobeithio defnyddio arian ei etifeddiaeth i ddechrau busnes.

Dyma’r tro cyntaf i ddienyddiad gael ei recordio ar dap yn y wlad ers 20 mlynedd.

Y recordiad

Cafodd y camera fideo ei osod pum troedfedd o’r gwely, gan wylio’r broses gyfan.

Pan ofynnwyd i DeYoung wneud ei ddatganiad olaf, dywedodd ei fod yn “ymddiheuro i bob un ydw i wedi eu brifo.”

Yn ôl swyddogion o’r Adran Gywiro, fe gymerodd DeYoung y bilsen sedatif a gynigwyd iddo o flaen llaw.

Pan dderbyniodd y brechiad tri-cyffur, caeodd De Young ei lygaid a’u hagor yn sydyn, ac fe fu’n llyncu am ryw ddwy funud, cyn cau ei lygaid am y tro olaf a llonyddu.

Bu farw am 8.04pm, amser lleol, nos Iau.

Gwrthwynebu

Roedd y dienyddiad wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mercher, ond fe’i gwthiwyd yn ôl diwrnod wrth i’r awdurdodau geisio atal y ffilmio.

Roedd gofid ynglŷn â diogelwch y dienyddiwr ac y gallai’r fideo gael ei ollwng i ddwylo’r cyhoedd.

Ond penderfynodd y barnwr y dylai’r recordiad fynd yn ei flaen, ac y byddai’r fideo wedyn yn cael ei gadw gan y llys.

Codwyd cwestiynau ynglŷn â defnydd pentobarbital yn nienyddiadau Georgia wedi dienyddiad Roy Blankenship ar 23 Mehefin.

Blankenship oedd y cyntaf i ddefnyddio’r cyffur, wedi i wneuthurwyr y cyffur blaenorol ddod â’u cynhyrchiant i ben yn America.

Yn ystod dienyddiad Blankenship, cofnododd newyddiadurwyr oedd yn bresennol ei fod wedi ysgwyd ei ben sawl tro yn ystod y dienyddiad, gan edrych tuag at y fan y cafodd ei frechu, ac yngan geiriau annealladwy wedi i’r cyffur gael ei ollwng i’w waed.

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu’r gosb eithaf yn dweud fod symudiadau anarferol Blankenship yn profi na ddylai Georgia fod wedi defnyddio pentobarbital cyn rhoi’r brechiad marwol iddo.