Karachi gyda'r nos
Mae wyth o bobol wedi eu lladd a 18 wedi eu hanafu ar ôl saethu yn un o ddinasoedd mwyaf Pacistan, yn ôl yr heddlu.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau treisgar yn Karachi, lle mae mwy na 100 o bobol wedi marw yn ystod y mis diwethaf. Y gred yw bod y llofruddiaethau yn deillio o elyniaeth wleidyddol.

Mae dinas borthladd Karachi yn gartref i 18 miliwn o bobol, ac mae dros 1,000 o bobol yn cael eu lladd yno bob blwyddyn.

Y ddinas yw calon fasnachol Pacistan, ac mae’r anrhefn yn bygwth tynnu sylw’r llywodraeth oddi ar yr ymgyrch yn erbyn Mwslemiaid milwriaethus.

Mae llawer o’r trais diweddar yn Karachi yn dilyn penderfyniad gan blaid fwyaf grymus y ddinas, y Muttahida Qaumi, i ymadael â’r glymblaid ffederal sy’n rheoli yno.