Mae 41 o bobol wedi eu lladd yn China, wedi i’r bws gorlawn yr oedden nhw’n teithio arni fynd ar dân.

Yn ôl asiantaeth newyddion y wlad, llwyddodd chwech arall i ddianc rhag y fflamau yn nhalaith Henan.

Ond cafodd sawl un ei llosgi ac mae un mewn cyflwr difrifol.

Roedd y bws dros-nos dau lawr, sydd i fod yn ddigon mawr i 35 o bobol, yn cludo 47 o deithwyr pan ddigwyddodd y ddamwain.

Yn ôl swyddogion, mae’r llosgiadau mor ddifrifol eu bod nhw’n awr yn ceisio adnabod y cyrff trwy samplau DNA.

Yn ôl yr asiantaeth newyddion, dydi hi ddim yn glir eto beth achosodd y tân ac mae ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Mae’n debyg bod y bws, a’r gwlâu tu fewn, wedi eu llosgi i lawr i’w sgwrbwd metel.

Mae damweiniau difrifol yn gyffredin ar ffyrdd China oherwydd arferion gyrru llac, gorlenwi cerbydau, a cyflwr gwael y ffyrdd.

Yn gynharach yn y mis, bu farw 23 o bobol pan yrrodd lori ar gyflymder i mewn i fws ymwelwyr, oedd wedi stopio yn anghyfreithlon ar briffordd yn nhalaith Hubei yn China.