Fe fydd Gwlad Groeg yn derbyn €109 biliwn arall ar ôl i arweinwyr parth yr ewro gytuno ar newidiadau radicalaidd er mwyn atal yr argyfwng dyled rhag lledu i wledydd eraill.

Mae’r cynllun yn cynnwys newidiadau mawr i gronfa ariannol parth yr ewro fydd yn caniatáu iddo roi benthyciadau i wledydd cyn iddyn nhw fynd i drafferthion.

Bydd gwledydd parth yr ewro a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn rhoi €109 biliwn (£95.9 biliwn) i Wlad Groeg ar ben y €110 biliwn (£96.7 billion) dderbyniodd y wlad flwyddyn yn ôl.

Bydd banciau a buddsoddwyr preifat yn cyfrannu  €37 biliwn (£32.5 biliwn) i’r pecyn, naill ai drwy anghofio dyled y wlad, neu werthu bondiau yn ôl i Wlad Groeg ar bris is.

Ni fydd angen i Wlad Groeg dalu’r arian yn ôl ar eu bondiau newydd am 30 mlynedd a bydd y cyfraddau yn isel, yn ôl y Sefydliad Cyllidol Rhyngwladol.

Bydd Gweriniaeth Iwerddon a Phortiwgal yn cael cymryd mantais o’r un newidiadau, medden nhw.

“Heno mae baich Gweriniaeth Iwerddon wedi ei esmwytho,” meddai’r Taoiseach Enda Kenny.

“Mae gennym ni ffordd bell i fynd a diffyg ariannol anferth i’w goroesi. Ond mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod da i Iwerddon.”

‘Ymdrech o ddifri’

Dywedodd  Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jose Manuel Barroso, ei fod yn falch o weld cynnydd go iawn er mwyn datrys trafferthion parth yr ewro.

“Am y tro cyntaf ers dechrau’r argyfwng, rydyn ni’n gallu dweud fod gwleidyddiaeth a’r marchnadoedd wedi dod at ei gilydd,” meddai.

Cododd y Dow Jones 152 pwynt a chynyddodd yr ewro yn erbyn y ddoler yn dilyn y newyddion fod arweinwyr parth yr ewro wedi dod i gytundeb.

“Dyma’r ymdrech cyntaf o ddifri i fynd i’r afael â phroblemau Gwlad Groeg,” meddai Guy LeBas, strategydd ariannol Janney Montgomery Scott.

Dywedodd fod y benthyciad €110 y llynedd wedi gwneud dim ond pentyrru rhagor o ddyledion ar ben gwlad nad oedd yn gallu eu talu nhw yn ôl.