Cynyddodd gwerth yr ewro heddiw wrth i arweinwyr Ewropeaidd gytuno’n fras ar gynllun i dalu rhai o ddyledion Gwlad Groeg ac osgoi argyfwng hwy.

Dywedodd y Canghellor Almaenaidd, Angela Merkel, fod swyddogion Ewropeaidd eisiau mynd i’r afael â “gwraidd” yr argyfwng drwy leddfu baich dyled y wlad.

Fe fyddai’r cytundeb, os yw’n cael sêl bendith aelodau parth yr ewro, yn ei gwneud hi’n haws i wledydd sydd mewn dyled fawr i dalu’r arian yn ôl.

“Os yw pawb yn cytuno ar y mesurau ac yn eu rhoi ar waith, fe fydd yn arwain at newid yn y modd y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi mynd i’r afael â’r argyfwng,” meddai’r strategydd ariannol Lena Komileva o Brown Brothers Harriman yn Efrog Newydd.

Ond dywedodd fod sawl cwestiwn heb eu hateb, gan gynnwys cost y cynllun a sut y bydd Ewrop yn gallu adfywio economïau diffrwyth rhai o’i haelodau.

Cododd yr ewro i uchafbwynt o $1,4401 heddiw. Roedd wedi syrthio i $1.4137 yn gynharach oherwydd ansicrwydd ynglŷn â manylion y cytundeb.

Mae gwerth yr Ewro wedi codi a phlymio drwy gydol yr haf wrth i fuddsoddwyr bryderu y bydd yr argyfwng dyled yn lledu o Wlad Groeg, Portiwgal ac Iwerddon i Sbaen a’r Eidal.

Dywedodd llefarydd ar ran parth yr ewro wrth asiantaeth newyddion yr Associated Press nad oedd y cytundeb “yn derfynol” ac y gallai “unrhyw beth newid”.